P-06-1345 Dylid gwneud cynlluniau rheoli cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion cofrestredig sydd mewn perygl fel Castell Rhiw'r Perrai
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Ruperra Castle Preservation Trust, ar ôl casglu 7,469 lofnodion ar lein a 3,086 lofnodion ar bapur, sydd yn wneud cyfanswm o 10,555 lofnodion.
Wedi'i adeiladu yng Nghaerffili, 1626, mae Castell Rhiw'r Perrai yn arwyddocaol yn hanes Cymru, un o lond llaw o Gestyll Pasiant sy’n weddill yn y DU. Roedd yn gartref i'r teulu Morgan a Charles I, a'r fyddin yn yr Ail Ryfel Byd. Ym 1941, llosgwyd y tu mewn yn ulw ac mae'n dal i fod yn adfail mewn perygl. Mae’n heneb gofrestredig ac adeilad rhestredig Gradd II*, ond mae wedi dirywio drwy berchnogaeth breifat. Mae un o'r tyrau wedi syrthio a, heb ymyriad bwriadol, bydd yn dirywio ymhellach ac yn cael ei golli’n fuan...
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae henebion cofrestredig wedi’u gwarchod er mwyn cadw
archaeoleg ac adeiladau fel y gall cenedlaethau'r dyfodol ddysgu
o'n gorffennol. Mae llawer o henebion yn sefydlog, ond mae angen
rheoli eraill er mwyn arafu neu osgoi effeithiau dirywiad naturiol.
Mae gwefan Cadw yn awgrymu y gallai fod yn ddefnyddiol i’r
perchnogion lunio Cynllun Rheoli Cadwraeth i lywio eu
penderfyniadau, ond nid yw'n ofyniad. Dylai Llywodraeth Cymru wneud
Cynlluniau Rheoli Cadwraeth yn orfodol ar gyfer henebion
cofrestredig sydd mewn perygl, er mwyn osgoi esgeulustod a'u colli
wedyn. Mae hyn yn cynnwys nodi arwyddocâd, risgiau, a
chyfleoedd i warchod a gwella'r heneb, er mwyn peidio â
niweidio’r hyn sy'n arbennig a sicrhau ein bod yn
trosglwyddo'r hyn sy'n cael ei werthfawrogi i genedlaethau'r
dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau na chaiff henebion sydd mewn perygl
fel Castell Rhiw'r Perrai eu hesgeuluso am 80 mlynedd arall. Bydd
hefyd yn helpu i leddfu pryder am golli rhannau arwyddocaol o'n
treftadaeth werthfawr ac yn cynorthwyo ein llesiant. Mae'r gymuned
wedi bod yn ceisio ei achub ers 25 mlynedd https://www.ruperracastle.wales/about-us-283027.html.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Caerffili
· Dwyrain De Cymru